Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cael eu gyrru allan o brifddinas Syria yn llwyr, yn ôl byddin y wlad.

Wedi ymgyrch filwrol mis o hyd, mae byddin Syria yn honni bod Damascus bellach yn “hollol ddiogel”.

Mae hyn yn golygu bod y ddinas – a’r maestrefi o’i chwmpas – dan reolaeth Llywodraeth Syria am y tro cyntaf ers dechrau’r rhyfel cartref yno yn 2011.

Mi wnaeth tua 1,600 o bobol – gan gynnwys milwyr IS – ffoi o’r ddinas wedi iddyn nhw daro dêl â’r Llywodraeth, yn ôl rhai adroddiadau.

Bydd byddin Syria yn bwrw ati yn awr i waredu milwyr IS o wersyll ffoaduriaid Yarmouk.