Mae’r bythau pleidleisio wedi agor yn Azerbaijan.

Mae pleidleisio wedi dechrau yn y wlad lle mae disgwyl i Ilham Aliyev ennill yn rhwydd, gan ymestyn ei 15 mlynedd wrth y llyw.

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr etholiad yn yr hydref eleni, ond mae wedi cael ei ddwyn ymlaen oherwydd bod “nifer o ddigwyddiadau pwysig eraill” tua diwedd 2018.

Mae Ilham Aliyev wedi arwain y wlad ers 2013, y flwyddyn yr olynodd ei dad. Mae polau yn awgrymu fod 80% o’r bobol yn ei gefnogi.