Mae cyn-weinidog tramor Llywodraeth Prydain, David Miliband, wedi rhybuddio rhag mwy o gyrchoedd “ad-hoc” yn Syria.
“Nes bod yna strategaeth gan bobol y tu hwnt i Bashar al Assad (arlywydd Syria) a’r Arlywydd Putin,” meddai, “rydyn ni’n beryg o roi’r awenau yn eu dwylo nhw o ran penderfynu ar ddyfodol y wlad,” meddai.
Yn ol David Miliband, fe ddylai Llywodraeth Prydain weithio gyda’r Unol Daleithiau a Chyngor Diogelwch y Cenehedlaoedd Unedig er mwyn datrys y sefyllfa.
“Mae angen rhoi lefel o adnoddau, blaenoriaethu, a hyd yn oed aberth, ar lefel nad sydd wedi ei roi cyn hyn,” meddai.
“Ond y peth gwaethaf fyddai jyst gadael i bethau ddirywio ymhell i’r uffern sydd â sgil effeithiau lleol ar gyfer y bobol yno… ond sydd hefyd â sgil effeithiau i wledydd cyfagos ac i ddyfodol y Dwyrain Canol a’u cysylltiadau nhw ag Ewrop.”