Mae cynrychiolwyr o wledydd ledled y byd yn trafod mewn cyfarfod yn Llundain heddiw (dydd Llun, Ebrill 9), sut y gall y diwydiant morio ostwng lefelau y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynhyrchu.

Nid yw’r diwydiant – yn wahanol i’r diwydiant hedfan – wedi’i gynnwys yng Nghytundeb Paris, sef y cytundeb rhyngwladol ar gynhesu byd eang a gafodd ei arwyddo yn 2015.

Ond nod y cyfarfod heddiw rhwng aelodau o’r Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO) yw sicrhau cytundeb a fydd yn gweld y diwydiant yn mynd i’r afael â’r broblem o nwyon tŷ gwydr.

Daw hyn wrth i lywodraethau ledled y byd alw ar y diwydiant i weithredu.

Lleihau’r lefelau

Mae’r diwydiant morio ar hyn o bryd yn cynhyrchu tua 2% i 5% o nwyon tŷ gwydr y byd.

Ond gyda gwledydd yn addo gweithredu o dan Gytundeb Paris, fe all ran y diwydiant godi i gymaint ag un pumed erbyn 2015.

Mae’r diwydiant felly yn annog aelodau o’r IMO i gadw lefelau y nwyon tŷ gwydr i’r hyn yr oedd yn 2008, er bod rhai gwledydd yn erbyn y cam hwn, gan y byddai’n effeithio ar fasnach rhyngwladol.

Ond mae ymchwil diweddar gan y Sefydliad dros Gydweithio Economaidd a Datblygu (OECD) wedi darganfod y byddai’r wybodaeth bresennol am dechnoleg newydd, ynghyd â defnyddio ynni amgen, yn helpu’r diwydiant i fod yn hollol rydd o nwyon carbon erbyn 2035.

Gobeithion Llywodraeth Prydain

Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i leihau’r lefel i “ddim” cyn gynted â phosib, tra bo’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn galw am leihad o £70%-100% erbyn 2050, o’u cymharu â lefelau 2008.

Mae gweinidogion eisiau i’r cyfarfod o’r IMO sicrhau cytundeb “uchelgeisiol” a fydd yn golygu na fydd y diwydiant morio yn cael ei adael ar ôl i ddiwydiannau eraill.

Ac maen nhw’n dweud bod y lywodraeth yn cefnogi’r diwydiant wrth iddyn nhw ddatblygu technolegau ‘gwyrdd”, a fydd yn cynnig cyfleodd i gwmnïau yn y diwydiant morio yn y Deyrnas Unedig.