Mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu plaid wleidyddol newydd fydd yn anelu i herio’r drefn yn San Steffan, yn ôl adroddiadau.

Mae papur yr Observer yn datgelu bod rhwydwaith o noddwyr ac entrepreneuriaid, wedi bod wrthi ers dros flwyddyn yn rhoi’r mudiad hwn at ei gilydd, a bod ganddyn nhw £50m yn eu coffrau erbyn hyn.

Yn ôl y papur, mae’r grŵp yn bwriadu cymryd syniadau o’r adain dde a’r adain chwith, ac mae wedi’i ffurfio oherwydd rhwystredigaeth â’r drefn sydd ohoni.

Un o gyn-noddwyr y Blaid Lafur, Simon Franks, sy’n bennaf gyfrifol am y prosiect, meddai’r papur, ac mae’n debyg ei fod wedi bod yn cyflogi staff i weithio i’r mudiad ers blwyddyn.

Er bod peth amwyster tros ba drywydd bydd y grŵp yn dilyn – dyw ambell aelod ddim am i’r grŵp droi’n blaid wleidyddol llawn – bydd yn cael ei lansio ar ryw ffurf blwyddyn nesa’.

Ymateb y blaid Lafur

Hyd yma mae ymateb y Blaid Lafur i erthygl yr Observer wedi bod yn negyddol, gydag un o weinidogion cysgodol y blaid, John Trickett, yn ei alw’n “degan i’r cyfoethog”.

“Plaid newydd gyda £50m i wario, dim aelodau, a dim llyfr rheolau,” meddai mewn neges ar Twitter. “Efallai bod ganddyn nhw gefnogaeth y sefydliad Prydeinig.

“Tegan i’r cyfoethog? Beth am ganolbwyntio ar yr her sydd o’n blaenau: adeiladu mudiad cymdeithasol fydd yn newid ein gwlad er gwell.”