Fe fu’n rhaid i ddegau o filoedd o bobol aros dros ddeuddeg awr am driniaeth mewn unedau brys yn ystod 2016/2017, yn ôl ffigurau newydd.

Cafodd 1,003,710 eu derbyn i unedau brys Cymru yn 2016/2017 yn ôl data Llywodraeth Cymru – mae hynny’n gyfwerth â 2,750 y diwrnod.

Ac ymhlith y cleifion yma, bu’n rhaid i 33,834 claf aros dros ddeuddeg awr i dderbyn triniaeth.

Mae hyn yn gynnydd o 5,818 o gymharu â ffigurau 2015/2016, ac yn gynnydd o 22,332 o gymharu â 2013/2014.

Yn ogystal gwnaeth llai o bobol dderbyn triniaeth o fewn pedair awr, gyda ffigwr 2016/2017 (81.9%) tipyn yn is o gymharu â phum mlynedd yn ôl – 7.1% yn is nag 2011-2012.

“Argyfwng”

“Nid y gaeaf â thrafferthion tymhorol sy’n gyfrifol am hyn,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns. “Mae unedau brys Cymru yn wynebu argyfwng sy’n peri gofid.”

“Mae’r adroddiad yma yn awgrymu bod mwy o gleifion nag erioed yn treulio dros 12 awr mewn unedau brys, ac mae’n anodd dod o hyd i unrhyw un sy’n dadlau na fydd 2017/2018 yn waeth.”