Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn ymweld â gwledydd Scandinafia yr wythnos nesaf, a hynny er mwyn trafod Rwsia, masnach a Brexit.

Yn ystod ei hymweliad undydd ar Ebrill 9, fe fydd yn cwrdd â Phrif Weinidog Denmarc, Lars Lokke Rasmussen yn Copenhagen, ynghyd â Phrif Weinidog Sweden, Stefan Lofven, yn Stockholm.

Mae Theresa May ar hyn o bryd ar wyliau yng ngogledd Cymru, ac mae disgwyl iddi ddychwelyd yfory er mwyn treulio amser yn ei hetholaeth yn Maidenhead cyn teithio i Scandinafia yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl i’r trafodaethau cwmpasu y bygythiad o du Rwsia i ddiogelwch rhyngwladol; masnach a buddsoddiad, ynghyd â’r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda chytundeb Brexit.

Yn dilyn yr ymosodiad yn Salisbury fis diwethaf, lle cafodd cyn-ysbîwr o Rwsia a’i ferch eu gwenwyno, fe wnaeth Sweden wahardd un diplomydd o Rwsia, gyda Denmarc wedyn yn gwahardd dau.