Mi fydd hi’n “llanast llwyr” o fewn diwydiant amaeth Cymru os na fydd bargen Brexit yn cael ei tharo, yn ôl Dirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru).

Dan yr amgylchiadau yma, mi fyddai Gwledydd Prydain yn gorfod dibynnu ar reolau masnachu Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Ac yn ôl Aled Jones mi fyddai hynny’n golygu tariffiau 40-50% ar gig oen o Gymru. Mae’n nodi na fyddai’r cig yn “ffafriol” i’w werthu dan yr amodau yma a byddai’n rhaid derbyn prisiau is.

“Wel, gallwch chi ddychmygu mi fyddai hi’n llanast llwyr yn y diwydiant pe tasai hynny’n digwydd,” meddai wrth golwg360.

“Gan gofio hefyd mae Cymru yn gyffredinol yn wlad sy’n cynhyrchu lot o ddefaid, lot o gig oen. Mae’n mynyddoedd ni yn ffrwythlon, rydan ni’n llwyddo i dyfu porfa dda.

“Dyw’r gallu gyda ni i droi i dyfu cnydau, wel, dydi o ddim yng Nghymru – gan eithrio rhannau arfordirol. Mae pwysigrwydd y diwydiant cig coch yn enfawr i ni, a’r diwydiant llaeth i raddau hefyd.”

Busnesau a’r Gymraeg

 ffermwyr yn gorfod derbyn prisiau is am eu cynnyrch, mae Aled Jones yn gofidio y byddai “pwysau” ar fusnesau i uno er mwyn ceisio gostwng cost cynhyrchu’r oen.

Bydd hyn yn ei dro, meddai, yn peryglu cymuned cefn gwlad a’r iaith Gymraeg yno.

“Dw i’n rhagweld mi fuasai hynny yn golygu bod yna llai o ffermwyr, llai o deuluoedd,” meddai. “Ac unwaith fydd yna llai o deuluoedd bydd yna llai o bobol ifanc yng nghefn gwlad, mewn ysgolion.

“Mae cymuned cefn gwlad yn mynd i ddioddef yn arw iawn.

“A dw i’n pryderu hefyd, mae’r iaith mor gryf yng nghefn gwlad Cymru. A buasai’n drueni mawr i ni fel gwlad, bod ni’n colli un o’r cryfderau mawr sydd gynnon ni yma.”