Mae cyn-weinidog Llafur, David Hanson yn galw am ddiddymu Arglwyddi etifeddol o Dŷ’r Arglwyddi.

Allan o’r 800 o Arglwyddi ar hyn o bryd, mae 92 ohonyn nhw wedi etifeddu’r teitl.

Mae David Hanson wedi cyflwyno mesur yn galw am leihau maint Tŷ’r Arglwyddi.

Dywed mai diddymu’r Arglwyddi etifeddol fyddai’r cam cyntaf i gael gwared ar y rhai sydd yno “yn sgil eu cyndeidiau”.

Ymateb

Mewn ymateb, dywed un o weinidogion y Swyddfa Gabinet, Chloe Smith, fod ymrwymiad eisoes i sicrhau bod Tŷ’r Arglwyddi’n “parhau’n berthnasol ac yn effeithiol”.

Wrth gymryd rhan yn y drafodaeth, dywedodd y cyn-weinidog Ceidwadol Andrew Percy fod Tŷ’r Arglwyddi’n orlawn o “bobol sy’n rhy Llundain-ganolog”.