Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban wedi dweud nad yw’n amddiffyn Llywodraeth Rwsia trwy gadw ei slot ar sianel deledu Russia Today [RT].

Mae Alex Salmond wedi disgrifio yr ymosodiad yn Salisbury ar y cyn-ysbïwr, Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, yn “drosedd ffiaidd”. Ond mae hefyd wedi dod dan y lach am ei “berthynas” â’r RT.

Ond mae’n mynnu “nad sianel bropaganda mohoni”, a hynny oherwydd ei bod yn cael ei rheoleiddio yng ngwledydd Prydain trwy Ofcom.

Y gwenwyno yn Salisbury oedd dan drafodaeth yn ystod ei slot, The Alex Salmond Show ar y sianel heddiw, lle bu’n cyfweld â phobol oedd yn cynnwys y cyn-swyddog MI5, Mary Dejevsky a’r ymgyrchydd hawliau dynol, Peter Tatchell.

“Dydw i ddim yn amddiffyn y Kremlin, a dydw i ddim wedi cael fy ngofyn i wneud chwaith. Does neb wedi ceisio dylanwadu ar gynnwys y rhaglen hon mewn unrhyw ffordd,” meddai, gan ddweud bod y rhaglen yn cael ei chynhyrchu yn annibynnol.

“Roedd y gwenwyno cemegol yng Nghaersallog yn drosedd ffiaidd a dylai gael ei gondemnio ledled y byd.”

 

Cefnogi safbwynt Jeremy Corbyn

Cefnogodd Alex Salmond alwad Jeremy Corbyn, a ofynnodd i’r Prif Weinidog sut roedd wedi ymateb i gais Llywodraeth Rwsia am sampl o’r gwenwyn nerfol er mwyn iddi gynnal ei phrofion ei hun.

“I lwyddo, mae’n rhaid i’r dystiolaeth [bod Rwsia wedi cynllunio’r ymosodiad] fod yn llethol a’r achos yn haearnaidd – fel gwnaeth arweinydd yr Wrthblaid ddweud wrth y Prif Weinidog,” meddai cyn arweinydd yr SNP.

“Doedd e heb gael llawer o gefnogaeth am wneud y pwynt yn Nhŷ’r Cyffredin ond dydy hynny ddim yn ei wneud yn anghywir.

“… Pan fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi ei thystiolaeth yna bydd dim dewis gan Lywodraeth Rwsia ond ateb.”