Mae arweinydd Iwerddon wedi dweud mai “syniadau a gwerthoedd Americanaidd” wnaeth alluogi iddo freuddwydio am ddringo i’r swydd y mae ynddi nawr.

Ac yntau’n ddyn hoyw o dras Indiaidd, mae Leo Varadkar yn dweud mai’r gwerthoedd yma a wnaeth iddo sylweddoli y byddai “pobol, rhyw ddydd, yn cael eu beirniadu ar sail eu gwerthoedd” yn hytrach na’u hil a’u rhywioldeb.

Mae hefyd wedi dweud mai dyma yw gwerthoedd Iwerddon erbyn hyn gan nodi: “Rydyn ni’n credu mewn cydraddoldeb gerbron y gyfraith, i bob dinesydd, o bob rhyw, crefydd, hil a rhywioldeb.”

Fe ddaw sylwadau Leo Varadkar yn ystod cyfres o ddigwyddiadau yn Washington DC. Fe fydd y Taoiseach yn cwrdd â Donald Trump ddydd Iau (Mawrth 15).