Mae’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi awgrymu ei fod yn barod i gyfaddawdu tros hyd y cyfnod trosglwyddo.

Nod Prydain yw sicrhau cyfnod dwy flynedd o hyd wedi Brexit, lle bydd nwyddau, pobol ac arian, yn medru symud rhwng y ddwy wlad yn ddirwystr.

Ond, mae Ewrop am weld y cyfnod hwn yn para hyd at Ragfyr 2020 – yn hytrach na Mawrth 2021 – a bellach mae David Davis wedi dweud y byddai’n “medru byw â hynny”.

Mewn cyfweliad ar raglen Newsnight, dywedodd y gweinidog mai’r flaenoriaeth yw dod i gytundeb tros y cyfnod trosglwyddo yn fuan, ac awgrymodd ei fod yn barod i gyfaddawdu.

“Mae [dod i gytundeb] yn bwysicach i mi na [ffwdanu] tros fisoedd,” meddai. “Felly dw i ddim yn poeni’n ormodol os taw Nadolig 2020 neu Basg 2021 fydd hi.”