Mae uwch gynghorydd yn swyddfa’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, yn dweud mai ef oedd ar fai am roi llun a neges i fyny ar wefan gymdeithasol Twitter sydd wedi codi-gwrychyn cydweithwyr ei fos.

Mae Matthew Ford yn cyfaddef mewn datganiad ebost y prynhawn yma mai ef a anfonodd y neges sydd wedi ennyn ymateb chwyrn gan aelodau Plaid Cymru yn erbyn Neil McEvoy.

“Fe anfonais y trydariad o gyfrif Twitter Neil heb yn wybod iddo,” meddai Matthew Ford am y llun o Neil McEvoy a Dafydd Elis-Thomas yn gwisgo menyg bocsio mewn ymateb i neges gan ohebydd y Western Mail, Martin Shipton.

“Mae e fel arfer yn rheoli ei gyfrif ei hunan, ond fe ofynnodd i mi gymryd cyfrifoldeb am hyrwyddo’r digwyddiad aml-bleidiol ar focsio yn y Cynulliad (trwy ddefnyddio’r llun ohono gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas).

“Fe gafodd y neges ei hanfon heb falais,” meddai Matthew Ford wedyn. “Mae gen i’r parch mwyaf i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ac i Dafydd Elis-Thomas hefyd.

“Dw i wedi ymddiheuro i Neil (McEvoy), ac fe fyddaf yn gwneud yn siwr yn y dyfodol ei fod e’n gwirio pob neges Twitter sy’n cael ei hanfon yn ei enw ef, cyn ei chyhoeddi.”