Mae Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Stryd Downing heddiw (Mawrth 14), er mwyn cwrdd â Theresa May i drafod y Mesur Ymadael ag Ewrop.

Fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, hefyd yn y cyfarfod.

Prif bryderon Llywdraeth Cymru ynglŷn â’r mesur hwn yw ei fod yn caniatáu i San Steffan gymryd rheolaeth dros feysydd sydd wefi’u datganoli, ar ōl Brexit – meysydd fel ffermio a physgota.

Ond nod y cyfarfod yw ceisio dod i gytundeb ar y mater, er gwaetha’r ffaith bod Mesur Parhad Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyflwyno i’r Cynulliad yr wythnos ddiwethaf fel cynllun wrth gefn.

Nod y mesur hwnnw yw sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd mewn meysydd datganoledig yn parhau’n rhan o gyfraith Cymru yn sgil Brexit.

“Nid yw amser o’n plaid”

Yn ôl Carwyn Jones, mae’r cyfarfod heddiw yn “gam allweddol” yn y trafodaethau rhwng Bae Caerdydd a San Steffan, a’i fod yn dangos bod Llywodraeth Prydain yn “symud i’r cyfeiriad cywir”.

Er hyn, mae’n dweud y bydd y Senedd yn parhau i lywio’r Mesur Parhad trwy’r Cynulliad fel cynllun wrth gefn.

“Rydyn ni eisiau datrys hyn ac rydyn ni’n benderfynol o ddal ati i geisio cael cytundeb cyn i’r Bil ddod i ben ei daith drwy’r Senedd, ond nid yw amser o’n plaid,” meddai Carwyn Jones.

“Dyna pam y byddwn ni’n parhau i lywio ein Bil Parhad driwyr Cynulliad. Ond, fel yr ydyn ni wedi dweud sawl gwaith, dim ond opsiwn wrth gefn yw hwn.”