Mae disgwyl i Aelodau’r Cynulliad heddiw drafod y posibiliad o osod isafswm ar bris alcohol yng Nghymru.

Fe gafodd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) ei gyflwyno yn y Cynulliad ym mis Hydref y llynedd, gyda’r nod o osod isafbris o 50c ar bob uned o alcohol.

Heddiw, mi fydd Aelodau Cynulliad yn penderfynu os fydd y bil yn symud ymlaen i’w ail gyfnod, sef cyfnod o ystyriaeth fanwl gan bwyllgorau’r Cynulliad.

Os bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei basio yn ddiweddarach eleni, bydd isafbris yn dod i rym 12 mis ar ôl i’r bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol.

Bwled arian?

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn i gefnogi pobol sy’n camddefnyddio sylweddau, ac yn ôl un gweinidog byddai isafbris yn chwarae “rhan bwysig” wrth fynd i’r afael â hyn.

“Nid yw isafbris uned yn fwled arian, ond bydd yn offeryn pwysig newydd wrth inni fynd ati i leihau lefelau yfed alcohol,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

“Drwy gyflwyno isafbris, fe allwn wneud gwahaniaeth – fel rydym wedi’i wneud drwy wahardd smygu, gan ddangos ein penderfyniad i greu dyfodol gwahanol i bobl Cymru.”

Camau

Hyd yma mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi rhybuddio nad “ateb syml” yw’r bil arfaethedig, tra bod elusen yn nodi y byddai’n “gam mawr”.

Yn yr Alban, cafodd deddf isafbris alcohol ei phasio yn 2012, ac mi fydd yn dod i rym eleni yn sgil dyfarniad o’i blaid gan y Llys Goruchaf.