Mae nifer o aelodau Plaid Cymru Dwyfor Meirionydd yn “teimlo’n gryf” y dylen nhw fwrw ati i benodi ymgeisydd yn lle Dafydd Elis-Thomas ar gyfer etholiad 2021 yn fuan – er ei bod hi’n debygol y bydd yn rhaid iddyn nhw aros am fwy na blwyddyn cyn cael caniatad gan y swyddfa ganolog i fwrw ymlaen â’r broses.

Yn y “dyddiau a fu”, fe fyddai’r etholaeth wedi medru dechrau’r broses pryd bynnag y mynnent, meddai ysgrifennydd pwyllgor y rhanbarth, Gwerfyl Jones, wrth golwg36o. Ond bellach, Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru sydd yn penderfynu pryd mae’r broses yn digwydd.

Mae golwg360 yn deall bod nifer o aelodau yn credu y dylai’r broses ddechrau eleni, a bod cangen Llanuwchllyn eisoes wedi ysgrifennu at y pwyllgor rhanbarth yn gofyn am “symud ymlaen ynghynt”.

Merched yn unig?

Dyw hi ddim yn glir eto chwaith p’un ai fydd yn rhaid i etholaeth Dwyfor Meirionnydd ddewis ymgeisydd o restr merched yn unig – penderfyniad arall y bydd y blaid yn ganolog yn ei wneud ar eu rhan.

Gyda’r mater hwnnw wedi achosi ffraeo mewnol yn etholaeth Llanelli cyn ac wedi etholiad 2016 – ffrae sydd wedi arwain at wahardd cangen Plaid Cymru Tref Llanelli dros dro – mae hynny hefyd yn chwarae ar feddyliau ymgyrchwyr Dwyfor Meirionnydd.

“Does dim proses [eto] achos mae allan o’n dwylo ni,” meddai Gwerfyl Jones.

“Y Pwyllgor Gwaith yn ganolog sy’n gosod yr amserlen, ac rydan ni jest yn gorfod derbyn mai dyna’r drefn.

“Mae’n deg dweud bod gwahaniaeth barn ar y pwyllgor ar y mater. A dyna pam bod ni wedi gofyn i’r canghennau ymgynghori efo aelodau, i weld beth ydi eu barn nhw.”

Y broses ddethol

  • Yr etholaeth sy’n dewis yr ymgeisydd trwy gynadleddau dewis;
  • Un aelod, un bleidlais yw’r broses arferol;
  • Mae gwahoddiad i bob aelod yn yr etholaeth fod yn rhan o’r cynhadleddau dethol.