Mae Liz Saville Roberts wedi cael rhybudd i fod yn “ofalus” wrth leisio’i dadleuon, ar ôl iddi gyhuddo San Steffan o geisio troi Cymru’n “wladfa gosb”.

Daeth sylw Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin tros gynlluniau i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot.

“Os bydd carchar anferth yn cael ei adeiladu ym Mhort Talbot, bydd yna fil yn rhagor o lefydd i  garcharorion yng Nghymru,” meddai’r Aelod Seneddol wrth y Gweinidog Cyfiawnder, Rory Stewart.

“Ydy’r [gweinidog] yn rhannu’r … pryder bod Cymru ar fin troi’n wladfa gosb i San Steffan?”

Ymatebodd Rory Stewart trwy nodi: “Dw i’n credu bod angen [i chi] fod yn ofalus iawn gyda’r fath yna o dermau … Nid sefydliad gwladfa gosb Lloegr yw hyn.”

“Dim brys”

Ymunodd yr Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock, â’r sgarmes eiriol gan alw am ddileu’r cynllun “ar unwaith”.

Dywedodd bod y cynllun yn peri trafferth gan fod safle arfaethedig y safle drws nesa’ i dai, ysgolion a chartrefi gofal; a bod rhwystrau cyfreithiol i’w sefydliad.

Gwnaeth Rory Stewart ymateb trwy ddweud bod y Llywodraeth yn “gwrando’n astud” ar bryderon, a bod “dim brys” o ran dod i benderfyniad ar y cynlluniau.