Fe fydd Rhif 10, Stryd Downing yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw, wrth i’r Prif Weinidog, Theresa May, wahodd gwesteion o’r diwydiant busnes, twristiaeth, chwaraeon a’r cyfryngau yng Nghymru i dderbyniad arbennig.

Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynnyrch, gyda wisgi Penderyn, gwin o Winllan Glyndwr a chynnyrch Cymreig o Gwm Farm Charcuterie yn cael eu defnyddio.

Mae disgwyl i gôr Ysgol Gynradd Pontrobert ger y Trallwng, a’r telynor Rhys Ward-Haugh, berfformio yn y digwyddiad.

“Dathlu” cynnyrch Cymru

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, mae’r derbyniad heddiw yn gyfle i “ddathlu popeth sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd.

“Rydyn ni’n wlad falch – ac yn rhan arbennig o’r Deyrnas Unedig,” meddai. “Ac rydyn ni’n gartref i rai o’r doniau a’r diwydiannau gorau yn y byd.

“Mae entrepreneuriaid, dyfeiswyr a phobol greadigol o Gymru yn creu argraff barhaol dros y byd i gyd, gyda phob un yn cyfrannu at y chwyldro mawr ym maes chwaraeon, bwyd, y celfyddydau a busnes yng Nghymru.”