Fe fydd Aelodau Cynulliad yn penderfynu yn ddiweddarach heddiw a fydd mesur i ddiogelu gweithwyr brys yn cael ei weithredu yng Nghymru.

Cafodd y ‘Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau)’ei gyflwyno ger bron San Steffan, a heddiw mi fydd Cynulliad Cymru yn pleidleisio trosti.

Os bydd Aelodau Cynulliad yn caniatáu i’r ddeddf gael ei gweithredu yng Nghymru, bydd ymosodiadau ar weithwyr brys yn cael eu trin yn llymach dan y gyfraith.

Bydd hefyd yn arwain at ehangu pwerau’r heddlu, gan eu galluogi i gymryd samplau o bobol sy’n ymosod ar weithwyr brys – ac sydd dan amheuaeth o fod â chlefyd heintus.

Cydradd â Lloegr

“Mae’n syfrdanol clywed am ymosodiadau corfforol a llafar ar weithwyr brys wrth iddyn nhw fynd ati i wneud eu gwaith, sef ceisio ein cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn iach,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Mae’r Bil yma yn un ffordd o fynd i’r afael a’r broblem yma. Rydym eisiau gweithwyr brys yng Nghymru gael yr un diogelwch â’r rheini yn Lloegr gan ddilyn yr un amserlen.”