Mae’r Cynulliad wedi penderfynu parhau ag ymgynghoriad i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i rhwng 80 a 90.

Er bod UKIP yn gwrthwynebu cynyddu nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd, fe basiwyd yn ddi-wrthwynebiad y cynnig yn y Siambr ddydd Mercher i ymgynghori ar ddiwygio’r Cynulliad.

Fe fydd Comisiwn y Cynulliad yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar adroddiad panel arbenigol a oedd yn awgrymu cynyddu nifer yr ACau, newid y drefn etholiadol yng Nghymru a gostwng yr oedran pleidleisio.

“Mae’r pwerau a drosglwyddwyd o San Steffan i’r Cynulliad gan Ddeddf Cymru 2017 yn ein galluogi i benderfynu ar ein hetholiadau ein hunain a’r ddeddfwrfa am y tro cyntaf,” meddai Elin Jones, Llywydd y Cynulliad.

“Felly, byddwn yn dechrau trafodaethau gyda phobol Cymru am eu gobeithion a’u huchelgais i’r Senedd dros y misoedd nesaf.

“Fe glywais neges gref gan Aelodau am bwysigrwydd esbonio’r cynlluniau yn drylwyr a chlir i bobol Cymru, ac am bwysigrwydd creu Senedd sy’n adlewyrchu’r cymunedau ry’n ni’n eu cynrychioli gan gynnwys lleisiau pobol ifanc a menywod.

“Bydd ein cynlluniau ar gyfer ymgynghori yn adlewyrchu’r blaenoriaethau hyn a byddwn yn bwrw ymlaen â’n cynlluniau yr wythnos nesaf.”

UKIP yn galw am refferendwm

Ond mae UKIP wedi galw’r broses bosib o gynyddu’r Cynulliad yn ffordd o “dwyllo” pobol Cymru. Mae’r grŵp yn y Cynulliad wedi galw am gynnal refferendwm ar y mater.