Mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn wedi beirniadu bos y Grid Cenedlaethol am beidio ag ymateb i’w bryderon am gynlluniau i osod llinellau pŵer yn ei etholaeth.

Er i Glyn Davies ysgrifennu at Syr Peter Gershon, Cadeirydd y Grid Cenedlaethol, yn tynnu sylw at y gwrthwynebiad i Brosiect Cysylltu Canolbarth Cymru, mae’n dweud nad yw wedi derbyn ymateb ganddo.

Yn hytrach, Hedd Roberts, Pennaeth Materion Cwsmeriaid a Masnachol y corff, sydd wedi ymateb i’w lythyr, meddai – ac mae’r llythyr hwnnw bellach i’w weld ar flog Glyn Davies.

“Doedd Syr Peter ddim am fynd i’r drafferth i ymateb ei hun,” meddai Glyn Davies yn ei flog. “Mae’n rhaid i mi gyfaddef, doeddwn i ddim yn disgwyl iddo wneud… mae’n llawer rhy grand i hynny.

“Felly mi wnes i benderfynu rhannu hwn. Mae’n dweud y cwbwl sydd angen ei wybod am y Grid Cenedlaethol.”

Y sefyllfa

Nod y Grid Cenedlaethol yw adeiladu llinell bŵer 40km o ogledd Sir Amwythig trwy Ddyffryn Efyrnwy at Gefn Coch yn Sir Drefaldwyn.

Yn ei lythyr, mae Glyn Davies yn pledio ar y Grid Cenedlaethol i gefnu ar y cynllun gan ddweud ei fod wedi “troi pobol y Canolbarth yn erbyn egni adnewyddadwy”.

Dyw Hedd Roberts, yn ei ymateb, ddim yn cadarnhau a fydd y cwmni yn bwrw ati â’r cynllun ai peidio.