Mae pennaeth y Sosialwyr Democrataidd yn yr Almaen yn lobïo’n galed ar i aelodau’r pleidiau eraill i beidio â derbyn amodau clymbleidio gyda phlaid Angela Merkel.

Maen nhw’n dweud fod aelodau llawr gwlad â daliadau dipyn gwahanol i’r rheiny ar frig y pleidiau.

Byddai gwrthod caniatad i ddechrau trafod yn rhwystro’r ddau arweinydd – Martin Schulz ac Angela Merkel – rhag symud ymlaen.

Mae Angela Merkel eisoes wedi methu â dod i gytundeb clymbleidio gyda dwy blaid lai.