Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn gwneud apêl newydd i ailymuno â grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Mae’r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru ar hyn o bryd yn eistedd fel aelod annibynnol wedi iddo gael ei wahardd fis Medi y llynedd.

Ar y pryd, fe ddywedodd Plaid Cymru ei bod wedi’i wahardd o’r grŵp oherwydd iddo “dorri rheolau” o ran “ymddygiad disgwyliedig ACau a chynrychiolwyr y Blaid”, a’i bod nhw’n cynnal ymchwiliad mewnol i gwynion yn ei erbyn.

Ond, mewn cynhadledd i’r wasg ym Mae Caerdydd heddiw, mae Neil McEvoy yn dweud y bydd yn apelio i gael  ailymuno â grŵp Plaid Cymru fis Mawrth.

“Sefydliadau” yn ei erbyn

Er nad yw Neil McEvoy yn gallu datgelu holl fanylion y cwynion a wnaed yn ei erbyn – gydag un yn dyddio’n ôl i 2016, meddai –  honnodd fod yna sefydliadau’n ceisio’i danseilio’n fwriadol.

“Cafodd y cwynion hyn eu gwneud i’r blaid er mwyn ceisio fy nhawelu i am wneud fy swydd o ddatgelu gwaith drwg rhai cwmnïau ac elusennau penodol,” meddai.

“Mae’r sefydliadau hyn yn gysylltiedig iawn â’i gilydd ac mae un ohonyn nhw’n derbyn tipyn o arian cyhoeddus.

“Mae’r ffaith bod y sefydliadau hyn wedi gwneud cwyn i’r blaid, yn hytrach na’r Comisiynydd Safonau, yn dangos eu bod nhw’n rhai gwleidyddol o ran natur.”

“Ddim am ymddiheuro”

Mae Neil McEvoy yn honni mai’r rheswm y cafodd ei wahardd o grŵp Plaid Cymru oedd oherwydd honiadau ei fod wedi cwestiynu polisi Plaid Cymru’n ymwneud ag atal yr hawl i werthu tai cyngor.

Ac mae’n mynnu na fydd yn ymddiheuro am hyn wrth wneud ei apêl, gan ei fod yn teimlo bod ganddo “yr hawl i gwestiynu polisïau ei blaid ei hun, fel pob aelod arall”.

“Cefais fy nghyhuddo o gwestiynu polisi,” meddai, “Dw i ddim yn meddwl bod hynny’n rheswm i ymddiheuro am unrhyw beth.

“Mae pobol eraill wedi gwneud hynny [cwestiynu polisi] yn y gorffennol, ac eto dy’n nhw ddim wedi cael yr un driniaeth ag a gefais i.”

Fe fydd apêl Neil McEvoy yn cael ei chyflwyno gerbron aelodau o bwyllgor gwaith Plaid Cymru mewn cyfarfod fis Mawrth. Fe fydd y blaid yn cynnal ei chynhadledd wanwyn yn Llangollen ar benwythnos Mawrth 23-24.