Fe fydd y cyfnod enwebu ymgeiswyr ar gyfer is-etholiad Alyn a Glannau Dyfrdwy yn cau am 4 o’r gloch heddiw.

Bydd Aelod Cynulliad newydd yn cael ei ethol ar Chwefror 6 yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Carrie Harper sydd wedi’i dewis gan Blaid Cymru; Sarah Atherton gan y Ceidwadwyr Cymreig; a’r Cynghorydd Donna Lalek gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dydi UKIP ddim wedi dewis ymgeisydd am fod mab Carl Sargeant, Jack, wedi’i enwebu gan y Blaid Lafur.

Bu farw Carl Sargeant ar Dachwedd 7, ddyddiau’n unig ar ôl cael ei ddiswyddo o fod yn  Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Cymru, a hynny’n dilyn honiadau gamymddwyn rhywiol.