Mae’r Aelod Cynulliad, Simon Thomas, wedi galw am onestrwydd gan Lywodraeth San Steffan, wedi iddyn nhw wneud dim sôn am y prosiect yn ei strategaeth ddiwydiannol.

Mae angen i Lywodraeth San Steffan i fod yn fwy “onest” ynglŷn â dyfodol Morlyn Llanw Abertawe.

Dim ond bwyddyn yn ôl y cafodd adroddiad gan Charles Hendry ei gyhoeddi a oedd yn rhoi cefnogaeth i ddatblygu morlyn llanw ym Mae Abertawe.

Ond yn ôl Simon Thomas, yr ysgrifennydd cysgodol dros egni yn y Cynulliad, mae angen i Lywodraeth San Steffan fod yn fwy agored ynghylch ei bwriad i ddatblygu’r prosiect, a hynny wedi iddyn nhw wneud dim sôn amdano yn ei strategaeth ddiwydiannol.

Llywodraeth San Steffan yn oedi

Mae’r Aelod Cynulliad yn dweud bod yna “fisoedd lawer” wedi mynd heibio gyda Llywodraeth San Steffan yn dal heb roi eu cefnogaeth i’r prosiect.

“Mae pobol yng Nghymru yn gobeithio y bydd y dechnoleg arloesol newydd hon yn cael ei ddatblygu wrth garreg eu drws, ac mae gwleidyddion ac arbenigwyr eisoes wedi cefnogi’r cynlluniau”, meddai.

“Ond os yw Llywodraeth San Steffan yn mynd i wrthod cynlluniau ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe, yna mae’n rhaid iddyn fod yn onest a dweud wrthym.”

Cymru’n “arwain” mewn technoleg werdd

Gyda’r prosiect hwn, mae Simon Thomas yn mynnu bod gan Gymru’r gallu i fod yn “arweinydd rhyngwladol mewn technoleg werdd”, a phe bai gan Gymru reolaeth dros ei hadnoddau naturiol ei hun, yna fe fydd y cynlluniau hyn eisoes wedi cael cymeradwyaeth.

“Dyna pam fydd Plaid Cymru yn parhau i wneud cais am bwerau datganoli llawn ar adnoddau naturiol Cymru”, meddai ymhellach. “Ac fe fyddwn ni’n parhau i wneud cais am ddatblygiad y prosiect arloesol a phwysig hwn.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth San Steffan am ymateb.