Mae llys yn Sbaen heddiw’n ystyried apêl gan Oriol Junqueras yn erbyn cael ei daflu i’r carchar yn dilyn refferendwm annibyniaeth y llynedd.

Fe fydd yn clywed yn ffurfiol hefyd am y cyhuddiadau yn ei erbyn, a’r gred ydi y bydd yn cael ei gyhuddo o wrthryfela; areithio er mwyn annog eraill i wrthryfela; yn ogystal â chamddefnyddio arian dan ei ofal yn ystod yr ymgyrch yn 2017 i sicrhau annibyniaeth oddi wrth Sbaen.

Panel o dri barnwr y Goruchaf Lys yn Madrid fydd yn penderfynu  a fydd yn rhaid i Oriol Junqueras aros yng ngharchar neu beidio. Pe bai’n cael ei ryddhau ar fechnïaeth, fe fyddai’n ei gwneud hi’n bosib iddo ddychwelyd i Barcelona i dyngu llw yn aelod o Senedd Catalwnia.

Fe allai hynny arwain at ei ethol yn arweinydd newydd y rhanbarth.

Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, wedi dileu llywodraeth Catalwnia, wedi iddi ddatgan annibyniaeth oddi wrth Sbaen ddiwedd Hydref.