Mae gwleidydd blaenllaw yn yr Almaen mewn trwbwl gyda’r heddlu a gwefan gymdeithasol Twitter, wedi iddi wneud sylwadau gwrth-Islamaidd dros gyfnod y Flwyddyn Newydd.

Fe wnaeth Beatrix von Storch – sy’n ddirprwy arweinydd y blaid asgell dde, Dewis Arall i’r Almaen, ac yn aelod o’r Bundestag ers Medi 2017 – ei sylwadau mewn ymateb i neges a wnaed gan Heddlu Cologne ar Twitter yn dymuno blwyddyn newydd dda mewn Arabeg.

“A ydych chi’n credu y bydden nhw’n llwyddo i dawelu’r llu barbaraidd, Islamaidd a threisgar hwnnw o ddynion y ffordd hyn?”

Roedd hi’n cyfeirio at ddathliadau’r flwyddyn newydd yn Cologne ddwy flynedd yn ôl, pan gwynodd cannoedd o ferched eu bod nhw’n cael eu cyffwrdd yn anweddus gan grwpiau o ddynion a oedd, gan fwyaf, yn fewnfudwyr.

Yn dilyn ei sywladau, cafodd ei chyfrif ei ddileu am ychydig oriau gan awdurdodau Twitter, ac mae’r heddlu eisoes wedi dwyn achos yn ei herbyn am wneud sylwadau sarhaus.