Mae miloedd o heddweision ychwanegol a gafodd eu hanfon i Gatalwnia yn ystod y cyfnod yn arwain at y refferendwm annibyniaeth fis Hydref, yn cael eu tynnu allan gan lywodraeth Sbaen.

Dydi’r 5,000 o swyddogion ddim bellach yn “angenrheidiol”, meddai’r weinyddiaeth yn Madrid.

Yn hytrach, mae’r gweinidog Juan Ignacio Zoido yn dweud fod y rhanbarth bellach yn ol “dan reolaeth”.

Fe gafodd Sbaen ei beirniadu’n llym am ddefnyddio grym er mwyn ceisio rhwystro’r refferendwm rhag cael ei gynnal ar Hydref 1. Fe gafodd cannoedd o bobol eu hanafu yn y gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr.