Fe allai cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, fod ymhlith y rhai fydd yn cael eu hurddo ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Yn ôl adroddiadau, fe fydd Nick Clegg yn dod yn farchog, a hynny er mwyn cydnabod ei wasaaneth yn Ddirprwy Brif Weinidog yn llywodraeth glymblaid Geidwadol-Ryddfrydol dan David Cameron.

Ond fe fyddai’n benderfyniad dadleuol, gan fod Nick Clegg yn gefnogwr mawr yr ymgyrch i aros yn Ewrop yn refferendwm 2016, ac mae wedi bod yn feirniad agored o Brexit.

Ers colli sedd Sheffield Hallam yn etholiad cyffredinol eleni, mae wedi codi gwrychyn y rheiny sydd am weld y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid lleiaf trwy gyhoeddi ei gyfrol, How To Stop Brexit (And Make Britain Great Again).

Pe bai’r adroddiadau’n wir, Nick Clegg fyddai’r diweddaraf o resaid o Ddemocratiaid Rhyddfrydol i gael eu hurddo – yn dilyn arweinydd presennol y blaid, Syr Vince Cable, ynghyd â’r cyn-Ysgrifennydd Ynni, Syr Ed Davey.

Mae hyn yn ddadleuol, gan mai dim ond 12 o Aelodau Seneddol sydd ganddyn nhw yn Nhy’r Arglwyddi.