Mae mam o Gymru wedi ymateb i’r newyddion bod Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris wedi sicrhau y bydd Llywodraeth Prydain yn ystyried tynnu hawliau oddi ar rieni sydd wedi’u carcharu am droseddau rhyw.

Wrth siarad â golwg360, mae gwraig sy’n dymuno aros yn ddienw yn dweud ei bod hi “wrth ei bodd”.

“Dw i ddim am awgrymu am funud y dylai pob carcharor golli ei hawliau,” meddai, “ond mewn achosion lle mae’r carcharor wedi niweidio’i blant ei hun a lle mae’r plant hynny wedi dioddef, mae angen dulliau o amddiffyn y plant rhag rheolaeth barhaus yr un sydd wedi eu camdrin.

“Dw i’n gwybod na fydd hyn yn effeithio ar fy mhlant i ond gobeithio, wrth symud ymlaen, y gall newidiadau positif gael eu cyflwyno er mwyn amddiffyn teuluoedd eraill rhag diodde’r hyn ry’n ni wedi ei ddioddef.”

Yn ôl un o weinidogion cyfiawnder San Steffan, Dr Phillip Lee, bydd angen “ystyried yn ofalus” cyn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn cael effaith ar blant, ac y byddai newid o’r fath “er lles yr holl blant y mae’r gyfraith bresennol yn cynnig yr hyblygrwydd mwyaf iddyn nhw”.

Y ddadl

Roedd Carolyn Harris, yr Aelod Seneddol Llafur, wedi galw ar weinidogion i sicrhau bod llysoedd teulu’n “rhoi diogelwch plant yn ôl wrth galon yr holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan farnwriaeth y llysoedd teulu”.

“Pan fo person yn cyflawni’r fath droseddau erchyll yn erbyn eu plant eu hunain, ni ellir caniatáu iddyn nhw reoli pethau o’r tu fewn i gell carchar.

“Dw i wedi gweld achosion lle mae gan droseddwr rhyw sydd wedi’i ddedfrydu hawliau fel tad ac yn dylanwadu ar fywydau plant oedd yn ddioddefwyr o’i herwydd.

“Dw i wedi siarad â mamau yr oedd eu gwŷr wedi camdrin eu plant ac ro’n i’n gegrwth ac wedi ymlâdd yn emosiynol gan eu straeon erchyll.

“Fe ddywedon nhw wrtha i fod hawliau eu plant i fod yn rhydd o’u camdriniwr yn cael eu hanwybyddu.”

Ychwanegodd fod yna “wendid” yn y gyfraith fod hyn yn cael digwydd a bod angen ei “herio”.