Mae “disgwyl” i glinigwyr lleol gael eu cynnwys mewn trafodaethau tros gynlluniau i greu canolfannau iechyd ledled y wlad, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Yn ôl llefarydd ar ran gweinyddiaeth y Bae, mae disgwyl i Fyrddau Iechyd “drafod y cynlluniau yn eu hardaloedd lleol” gyda Meddygon Teulu a Phwyllgorau Meddygol Lleol (LMCau).
Daw’r ymateb yn sgil beirniadaeth gan Bwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru (GPC Cymru), o’r cynlluniau gwerth £68m fydd yn arwain at greu 19 canolfan ledled Cymru erbyn 2021.
Mae GPC Cymru yn “pryderu” bod Pwyllgorau Meddygol Lleol wedi’u hesgeuluso o broses dylunio’r prosiect, ac yn dweud bod angen “datblygu strategaethau gwydn, gan gynnwys LMCau yn y broses.”