Mae Jack Sargeant wedi diolch am y teyrngedau i’w dad, cyn-Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Cymru, Carl yn dilyn ei farwolaeth yr wythnos ddiwethaf.

Mewn datganiad, dywed fod yr holl deyrngedau wedi “helpu’r teulu gyda’r boen” o’i golli.

Fe grogodd Carl Sargeant ei hun yn ei gartref yng Nghei Conna, a hynny ar ôl cael ei ddiswyddo o’r Cabinet a’i ddiarddel o’r Blaid Lafur yn sgil honiadau am ei ymddygiad rhywiol.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth ar ôl i’r Cynulliad ddod at ei gilydd am y tro cyntaf ers ei farwolaeth ar Dachwedd 7.

Datganiad y teulu

“Rydw i, fy mam Bernie a fy chwaer Lucy, wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth a gawsom ers marwolaeth drasig Dad ddydd Mawrth diwethaf,” meddai datganiad Jack Sargeant.

“Hon oedd wythnos anoddaf ein bywydau. Mae’n anodd dychmygu sut y basan ni wedi ymdopi heb gefnogaeth aelodau eraill y teulu, cymuned Cei Conna a ffrindiau Dad ledled Cymru.

“Rydan ni wedi derbyn cynifer o negeseuon gan bobol oedd wedi cyfarfod â Dad unwaith, neu rai nad oedden nhw wedi cyfarfod â fe o gwbwl,” meddai wedyn, “ond yn gwybod gan bobol eraill ei fod yn ddyn caredig, gofalgar a diffuant.

“Mae gwybod cymaint o gariad oedd at Dad wedi ein helpu i oddef y boen.

“Mi fyddwn ni’n gwerthfawrogi’r caredigrwydd yma, gan ffrindiau a dieithriaid fel ei gilydd, am byth. Fel teulu, hoffem ddweud ‘diolch’ o waelod ein calonnau.”