Bwriad gwreiddiol y nofel Wythnos yng Nghymru Fydd, sy’n cael ei pherfformio ar ffurf opera am y tro cyntaf heno, oedd tanio ymateb ymysg Cymry’r 1950au.

Mi gafodd y nofel ei hysgrifennu ar ffurf propaganda i Blaid Cymru yn 1957 gan yr awdur, Islwyn Ffowc Elis, lle mae’n cynnig dau ddewis i Gymru’r dyfodol – un lewyrchus ac un llawn trallod.

Y gobaith oedd tanio pobl i ymateb ac ymgyrchu dros Gymru well, a dyma oedd y nofel ffuglen wyddonol gyntaf i gael ei chyhoeddi yn y Gymraeg.

Y nofel

Mae’r stori’n dilyn y cymeriad Ifan Powell sy’n cymryd rhan mewn arbrawf wyddonol i deithio i’r dyfodol, o 1956 i 2033.

Wrth wneud hynny mae’n rhyfeddu at Gymru ddelfrydol lle mae gan y wlad hunanlywodraeth, economi gref ac mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu.

Mae hefyd yn disgyn mewn cariad â chymeriad o’r enw ‘Mair’.

Ar ôl dychwelyd i 1956, mae’n cael yr ysfa i deithio eto i 2033 ond, y tro hwn, mae’r darlun yn hollol wahanol.

Mae’r iaith Gymraeg wedi marw, y diwylliant Cymreig wedi darfod a’r wlad wedi’i hailenwi yn ‘Western England’ a’r Gymru wledig wedi diflannu o dan fforestydd.

Mae’r prif gymeriad yn troi at genedlaetholdeb, a dyna’r neges yr oedd yr awdur yn gobeithio ei chyfleu i’w ddarllenwyr wrth ei chyhoeddi o dan adain Plaid Cymru.

Yr awdur

Mae Islwyn Ffowc Elis yn cael ei ystyried yn un o awduron mwya’ poblogaidd yr ugeinfed ganrif a’i nofel Cysgod y Cryman (1953)  yw’r nofel Gymraeg i werthu orau erioed.

Mae rhai o’i brif weithiau llenyddol yn cynnwys Cyn Oeri’r Gwaed, Cysgod y Cryman, Yn Ôl i Leifior, Wythnos yng Nghymru Fydd, Y Blaned Dirion a Marwydos.

Islwyn Ffowc Elis oedd yr awdur Cymraeg cyntaf i ennill ei fywoliaeth o lenydda’n broffesiynol.