Roedd Tachwedd 7, 1917 – dyddiad y Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia – yn un pwysig i ddynol ryw yn ei chyfanrwydd, meddai Aleida Guevara ar ei hymweliad â Chymru ganrif union yn ddiweddarach.

“Mae’n ddyddiad hanesyddol, oherwydd roedd yn ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes dynol ryw.

“Fe lwyddodd yr hyn ddigwyddodd yn Rwsia i drawsnewid gweddill y byd… ac yn sicr, fe roddodd hyn obaith i weddill pobol y byd, bod modd i ninnau gyflawni pethau hefyd.”

Roedd Aleida Guevara, 56, merch hynaf y chwyldroadwr Che Guevara, bron yn saith mlwydd oed pan laddwyd ei thad yn Bolifia yn 1967. Mae’n siarad yn gynnes amdano, ac yn dweud fod y geiriau y llefarodd ac yr ysgrifennodd ef yn ystod ei yrfa o wrthryfel, yn rhai sy’n “para am byth”.

Mae Aleida Guevara ar daith o wledydd Prydain er mwyn nodi hanner canmlwyddiant marw ei thad.

Clec cwymp comiwnyddiaeth

Ond pan ddaeth cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddydd Nadolig 1991, roedd hynny, meddai Aleida Guevara, yn glec i bob cenedl fach yn y byd oedd yn ceisio ymladd cyfalafiaeth.

“Dychmygwch baentiwr yn canolbwyntio ar addurno’r to,” meddai, “ac yna’n sydyn, yr ysgol yn cael ei chipio o dan ei draed. Dyna sut brofiad oedd o i Ciwba pan gwympodd y drefn gomiwnyddol.

“Yn economaidd, fe darodd Ciwba y gwaelod un.”