Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi lleisio pryderon dynes, y bu hi’n cydweithio â hi ar un adeg, ac sy’n honni iddi ddioddef o aflonyddu rhywiol yn San Steffan.

Mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn ddoe (Hydref 30), mi dynnodd Liz Saville Roberts sylw at achos y ddynes hon gan ddweud fod y digwyddiad yn ei herbyn yn “gwbl annerbyniol.”

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi cadarnhau nad oes gan y ddynes dan sylw gysylltiadau Cymreig, a dydy hi ddim chwaith yn gweithio i’r un Aelod Seneddol o Gymru, ond mi’r oedd hi wedi gweithio gyda Liz Saville Roberts yn y gorffennol.

“Mae hi’n gweithio yma yn San Steffan, ac yn dechnegol mae hi’n gweithio fel aelod o staff Aelod Seneddol ond mae hi’n gweithio i’r sefydliad yma, ac mi’r oedd hi’n sôn wrtha i ei bod wedi cael ei haflonyddu’n rhywiol yn rhan o’i gwaith,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360.

Mae’n ychwanegu fod y ddynes wedi cwyno i’r “awdurdodau priodol a hyd yn oed i’r heddlu” ond nad oedd dim wedi dod o hynny.

Proses ‘anwleidyddol ac annibynnol’

“O glywed ei hanes hi, ac o’i nabod hi, dw i’n ei choelio hi,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360 gan ddweud fod y digwyddiad “yn un gwbl annerbyniol.”

“Tase’ hi’n gweithio rywle heblaw am  San Steffan mi fyddai yna drefniadau pendant, clir, tryloyw am sut i ymdrin â’r sefyllfa,” meddai gan ddweud nad oes trefniadau addas yn San Steffan.

Mae’n dweud fod angen datrys hyn â phroses fyddai’n “anwleidyddol” ac yn “annibynnol” o bleidiau gwleidyddol a’r sefydliad ei hun.

“Fel y mae ar hyn o bryd, yr hyn rydan ni’n clywed ydy llu o sïon,” meddai gan ddweud fod angen proses fyddai’n rhoi “hyder” i bobol leisio eu profiadau a chael “eu trin yn deg.”