Mae Aelod Cynulliad wedi lleisio pryder ynghylch yr oedi wrth osod rhagor o Safonau Iaith ar gyrff gwahanol.
Daeth cadarnhad gan Gomisiynydd y Gymraeg y bore yma, wrth iddi ateb cwestiynau gerbron Aelodau Cynulliad, fod y broses o osod rhagor o reoliadau Safonau Iaith wedi cael ei ohirio wrth i’r ymgynghori ar Fil y Gymraeg barhau.
Mae Siân Gwenllian o Blaid Cymru yn dweud ei bod wedi’i “synnu” o glywed hynny a bod “arafwch y Llywodraeth yn codi cwestiynau”.
Mater o bryder
“Un mater o bryder roeddwn i’n gweld yn codi oedd mater gosod y rheoliadau yn y maes iechyd,” meddai Sian Gwenllian wrth golwg360.
“Yn ôl y Comisiynydd a’r swyddog oedd efo hi, mae’r oedi yma oherwydd bod y Llywodraeth yn gwneud ymgynghoriad ar bapur gwyn ynglŷn â chael deddfwriaeth newydd.
“Roeddwn i’n synnu o glywed hynny achos dylai fod yna ymgynghoriad ar unrhyw beth ddim yn rheswm digonol i oedi proses sydd wedi mynd ymlaen ers bron i ddwy flynedd a hanner rŵan.
“Mae’n codi cwestiynau mawr ar arafwch y Llywodraeth yn cyflwyno’r Safonau. Mae yna rai eraill rydan ni’n dal i ddisgwyl amdanyn nhw yn y maes tai er enghraifft.
“Mae’r arafwch yma yn fater o bryder pan mae rhywun yn meddwl bod yna uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg ac eto mae yna arafwch o gyflwyno’r Safonau.
“Mae o’n systematig o ddiffyg ewyllys dw i’n meddwl i symud pethau ymlaen ac i roi’r bai bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen, dw i ddim yn gweld bod hwnna’n dal dŵr o gwbwl.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Roedd Alun Davies yn glir am y mater yma yn gynhara’ (sic) yn y flwyddyn,” gan dyfynnu o’r Datganiad Ysgrifenedig ar y Papur Gwyn a gyhoeddwyd Gorffennaf 19.
Ac yn y datganiad hwnnw, mae’r Gweinidog yn nodi fel hyn: “Byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gwneud cynigion cadarn i ddelio â’r materion hyn, sef sicrhau arweiniad a threfniadau cadarn ar gyfer hybu a hyrwyddo’r iaith ac i wneud gwelliannau i’r gyfundrefn Safonau.
“Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos, hyd at ddiwedd mis Hydref. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gynnal trafodaeth am gynnwys y Papur Gwyn yn y Senedd pan fyddwn ni’n ail ymgynnull ym mis Medi. Fy mwriad yw i geisio’r gefnogaeth ehangaf bosib i’m cynigion.
“Yn dilyn hynny, byddaf yn cyflwyno rheoliadau Safonau i gyrff iechyd cyn diwedd y flwyddyn. Mae’n bwysig bod y rhaglen dreigl o wneud Safonau yn parhau a bod Aelodau’r Cynulliad yn cael gwneud penderfyniad ar y rheoliadau yng ngoleuni ein cynigion ar gyfer y dyfodol.”