Chris Grayling
Mae tri chwarter pobl sy’n gwneud cais am fudd-dal salwch yn ddigon da i weithio neu’n rhoi gorau i’w cais cyn iddo gael ei gyflawni, yn ôl y Llywodraeth.

Dros gyfnod o 22 mis, roedd 1,175,700 wedi gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac roedd 887,300 wedi methu â’i gael yn y pen draw.

O’r rheiny, roedd 458,500 – 39% – yn ddigon iach i weithio ac roedd 428,800 – 36% – wedi rhoi’r gorau i’w cais cyn eu bod nhw wedi cwblhau asesiad meddygol, meddai ffigyrau’r Adran Waith a Phensiynau.

Yn ôl y Gweinidog Cyflogaeth mae’r ystadegau’n pwysleisio’r angen i ddiwygio’r drefn fudd-daliadau.

Ond, yn ôl rhai arbenigwyr, roedd amgylchiadau pobol yn gallu newid a rhai pobol wael, er enghraifft, yn gwneud cais er mwyn gweld a oedd ganddyn nhw’r hawl i’r arian.

‘Angen newid’

“Unwaith eto, mae tystiolaeth bendant yma o’r angen i newid y system fudd-dal,” meddai Chris Grayling.

“Rydyn ni’n gwybod bod mwyafrif helaeth yr ymgeiswyr newydd am fudd dal salwch yn ddigon da i fynd yn ôl i’r gwaith. Dyna pam yr ydyn ni’n canolbwyntio ar ymgeiswyr y system bresennol.

“Dyna pam yr ydyn ni’n ailasesu’r holl ymgeiswyr hynny ac yn lansio rhaglen waith i ddarparu cefnogaeth arbennig i bobol sy’n mynd yn ôl i’r gwaith.

Roedd ffigyrau’r Adran Waith a Phensiynau yn edrych yn benodol ar y cyfnod o fis Hydref 27, 2008 i 31 Awst, 2010.