Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi cefnogi’r ffordd y mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi ymdrin â bygythiad niwclear Gogledd Corea.

Wrth draddodi araith ddydd Llun (Hydref 23) yn Chatham House, dywedodd bod gan Donald Trump “ddyletswydd” i ddiogelu pobol America trwy ddefnyddio unrhyw ddull priodol.

Er hynny dywedodd hefyd bod “neb eisiau ateb milwrol i’r broblem” wrth gyfeirio at y tensiynau ar benrhyn Corea.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor hefyd wedi amddiffyn cytundeb rhyngwladol ag Iran gan fynnu ei fod wedi rhwystro tensiynau rhag dwysau yn y Dwyrain Canol.

Daw hyn wythnos wedi i Donald Trump fygwth cefnu ar y cytundeb gan gyhuddo ei ragflaenydd, Barack Obama, o daro cytundeb gwael ag Iran.

Mae Boris Johnson yn dweud bod modd diogelu’r cytundeb ac wedi mynnu na ddylwn “gefnu ar neu amharchu” pobol Iran.