Llygredd yn yr aer yn Llundain Llun: PA
Mae gyrwyr cerbydau sy’n achosi’r llygredd mwyaf, yn wynebu gorfod talu £21.50 i deithio i ganol Llundain.

O dan y cynlluniau a ddaeth i rym am 7yb ddydd Llun, bydd perchnogion ceir hŷn, a’r rhai sydd â cherbydau disel sy’n llygru fwyaf, yn gorfod talu £10 yn ychwanegol ar ben y tal presennol o £11.50.

Fe fydd yn rhaid talu’r costau bob dydd yn ystod yr wythnos rhwng 7yb a 6yh ac mae’n berthnasol i gerbydau a gafodd eu cofrestru cyn 2006 ac sydd mwy na 12 oed.

Mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi cyflwyno’r gost ychwanegol er mwyn mynd i’r afael a’r llygredd yn yr aer yn y brifddinas sydd, meddai, yn “achosi miloedd o farwolaethau cynamserol.”