Llun: PA
Mae arweinwyr busnes yn galw am lunio cytundeb Brexit dros dro “cyn gynted â phosib” wrth i gwmnïau baratoi i wneud “penderfyniadau difrifol” a allai gael effaith ar swyddi a buddsoddiad y flwyddyn nesaf.

Mewn llythyr drafft a fydd yn cael ei anfon at yr ysgrifennydd Brexit David Davis, mae pum grŵp lobio busnes mwyaf gwledydd Prydain hefyd wedi galw am sicrhau bod y trefniadau masnachu presennol gyda’r Undeb Ewropeaidd yn aros yr un fath yn ystod y cyfnod yma.

Mae disgwyl i Theresa May annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw ynglŷn â’i chyfarfod gydag arweinwyr Ewrop i geisio cyflymu’r broses Brexit. Mae’r Prif Weinidog wedi galw am gadw telerau masnachu rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE am gyfnod o tua dwy flynedd.

Ond mae arweinwyr yr UE wedi ei gwneud yn glir y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog wneud rhagor o gonsesiynau ynglŷn â’r taliad i adael yr UE cyn i drafodaethau am fasnach ddechrau.

Credir bod y llythyr drafft wedi cael ei arwyddo gan y CBI, Siambrau Masnach Prydain, y corff EEF, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a’r Ffederasiwn Busnesau Bach.