Does dim ffordd o atal Brexit rhag digwydd, yn ôl cyn-Ganghellor San Steffan, Ken Clarke.

Dywedodd fod “ychydig iawn o amheuaeth” y byddai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw, ac fe ddywedodd mai “ffolineb” fyddai cynnal ail refferendwm.

Dywedodd wrth gynulleidfa yn yr Alban fod diffyg cytundeb tros delerau gadael yr Undeb Ewropeaidd “yn annhebygol iawn”.

Dywedodd: “Mae’r dosbarth gwleidyddol ar y cyfan, ac eithrio pobol ecsentrig fel fi, a fel dw i’n dweud, ro’n i’n brif ffrwd tan ychydig fisoedd yn ôl, maen nhw i gyd wedi penderfynu fod y refferendwm hwn yn gyfarwyddyd oddi fry. Llais y bobol ydyw ac ni all gael ei herio.”

Ychwanegodd fod y Senedd yn “ofni’r papurau newydd asgell dde” ac am y rheswm hwnnw, ni fydd yn troi ei chefn ar ganlyniad y refferendwm, meddai.

Dywedodd y bydden nhw’n cael eu cyhuddo o fod yn “elyn y bobol” pe na bai Brexit yn mynd rhagddo, ac y byddai’n “cymryd digwyddiadau go eithriadol” iddo beidio â digwydd.

Refferendwm

Wrth drafod y refferendwm a arweiniodd at y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd Ken Clarke: “Dw i byth eisiau gweld refferendwm arall yn fy myw.

“Mae’r syniad o gael cwestiwn cymhleth iawn ynghylch ‘a ddylai Prydain fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd’ nawr yn mynd at gwestiwn sy’n gofyn ‘edrychwch ar y rhestr hir o delerau ry’n ni wedi’u trafod â’r 27 o wledydd eraill, a ydych chi’n cymeradwyo hyn neu beidio?’ yn ffolineb, byddai’n rhyfedd.”