Jill Evans
Er i un o fawrion Plaid Cymru alw am fwy o gydweithio gyda’r Ceidwadwyr, mae Aelod Seneddol Ewropeaidd y Blaid wedi wfftio’r syniad.

Mewn erthygl yn y Daily Post ddoe dywedodd Dafydd Wigley y dylai Plaid Cymru ystyried cydweithio gyda’r Torïaid yn San Steffan.

“Ein dyletswydd ni yw delio gyda phwy bynnag sydd yn ffurfio llywodraeth y dydd… [er mwyn] dangos i Gymru sut y gall wneud gwahaniaeth ymarferol i obeithion ein cenedl.”

Ond mae’r Arweinydd Leanne Wood wedi diystyru unrhyw gydweithio gyda’r Ceidwadwyr a dyna’r teimlad cyffredinol wrth siarad â rhai o aelodau etholedig Plaid Cymru yn eu cynhadledd yn Galeri Caernarfon heddiw.

Dywedodd Jill Evans wrth golwg360 na fyddai yn cefnogi unrhyw fath o gydweithio gyda’r Ceidwadwyr.

“Yn y gorffennol, dw i wedi bod yn erbyn unrhyw glymblaid gyda’r Torïaid. Dw i ddim yn credu bod gennym ni ddigon yn gyffredin fel pleidiau, bod ni ddim yn rhannu’r un weledigaeth ar gyfer Cymru.

“Buaswn i yn erbyn, fel dw i wedi gwrthwynebu cynigion tebyg yn y gorffennol. Dw i ddim yn credu bod unrhyw beth wedi newid o fy safbwynt i.

“Dw i ddim yn dweud bod yna ddim lle i gydweithio ar bethau. Er enghraifft yn Senedd Ewrop, mae aelodau o Gymru, o Brydain, o bob plaid wahanol yn cwrdd, yn trafod, yn enwedig yn y cyfnod yma yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond o ran ffurfio Llywodraeth, buaswn i yn erbyn.

“Dw i ddim yn credu y byddwn ni’n gallu cyflawni’r hyn rydyn ni eisiau ei gyflawni i Gymru dan yr amodau hynny.”

“Dim awydd” i gydweithio

Roedd barn yr Aelod Cynulliad Llŷr Huws Gruffydd yn debyg – ond dywedodd bod angen bod yn “bragmataidd” ac ystyried cydweithio os oes rhaid.

“Buaswn i’n amheus iawn o werth clymbleidio gyda’r Blaid Geidwadol oherwydd yn ideolegol, maen nhw’n dod o gyfeiriad gwbl wahanol i le dw i’n dod a lle dw i’n meddwl y mai’r rhan fwyaf helaeth o’r Blaid yn dod ohono fe.

“Dyw hynny ddim i ddweud na ddylwn ni fod yn bragmatig ynglŷn â chyfleoedd fel maen nhw’n codi, byddai’n rhaid edrych ar y cyd-destun ar y pryd ac ar yr agenda ar yr hyn sy’n bosib ei gyflawni o ddod i drefniant.

“Ond fel mae pethau’n sefyll, ac yn sicr yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, dw i’n meddwl y bydd y blaid ar ei cholled yn eithriadol pe bawn ni’n cydweithio.

“Weithiau mae’n anodd gweld lle mae’r tir cyffredin oherwydd mae yna lawer o’r dadleuon a’r trafodaethau sy’n digwydd yn y Cynulliad, mae’r Blaid a’r Ceidwadwyr yn coleddu safbwyntiau sydd wedi pegynnu wrth ei gilydd. Yn ymarferol, dw i ddim yn teimlo bod yna awydd i’w wneud.”

“Cytuno ar rai pethau er lles Cymru”

Roedd Simon Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn fwy agored i gydweithio gyda’r Torïaid.

“Be’ sydd angen ar Blaid Cymru nawr dw i’n teimlo yw cyfnod heb etholiad, cyfnod o sefydlogrwydd i ail-ystyried, ail-leoli i raddau lle gallwn ni fynd gyda’n polisïau ni ond hefyd gyda’n neges ni yn fwy eang.

“Dw i ddim yn credu bod trafod gydag unrhyw grŵp o bleidiau yn helpu hynny achos mae’n cymylu’r darlun felly dw i’n awyddus bod ni’n gweld ein hunain yn symud yn fwy annibynnol yn yr ystyr yna.

“Mae’n rhaid i chi fel plaid aeddfed dw i’n teimlo, sylweddoli os bydd etholiad… mae yna rhai pleidiau byddech chi byth, byth yn moyn cydweithio gyda nhw, fel UKIP, ond mae yna rychwant o bleidiau sy’n cynrychioli barn yng Nghymru, bydd rhaid i chi rhywbryd o bosib trafod gyda nhw, cytuno ar rai pethau er lles Cymru.

“Felly dw i ddim yn rhoi’r Torïaid yn yr un fasged ag UKIP yn sicr, na. Ond i fod yn gwbl glir, ar ôl etholiad mae ystyried hwnna, dim cyn etholiad.”