Ar ôl sgrapio’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn, mae Ysgrifennydd Cymru dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi £100 miliwn i helpu ardaloedd tlotaf Cymru.

Drwy raglen newydd Carl Sargeant, bydd cynghorau sir yn gallu gwneud cais am arian ar gyfer prosiectau sy’n addo rhoi hwb economaidd i gymunedau penodol.

Yn ôl yr Ysgrifennydd, mae’r cynllun yn hanfodol i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn ffynnu yn economaidd, yn hytrach na dim ond dinasoedd a rhanbarthau poblog lle mae llawer o fuddsoddi’n digwydd drwy fargeinion dinesig.

Mae Carl Sargeant hefyd yn dweud bod y Llywodraeth yn ymwybodol bod cymunedau gwledig yn wynebu heriau gwahanol wrth fynd i’r afael â thlodi.

Cafodd y cynllun Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu yn 2001 i helpu ardaloedd tlotaf Cymru. Ond daeth i ben ei ddileu ym mis Chwefror eleni – penderfyniad a gafodd ei ddisgrifio fel un “gwarthus” ar y pryd.

Cyllid i “ategu” cynlluniau eraill

Meddai Carl Sargeant: “Mae heriau penodol i’w goresgyn wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a datblygu cymunedau cynaliadwy sydd wedi’u cysylltu’n dda mewn ardaloedd sydd dan anfantais yn economaidd neu o dan gysgod diwydiannau trwm y gorffennol.

“Ry’n ni hefyd yn cydnabod bod ardaloedd gwledig yn wynebu heriau gwahanol.

“Dylai awdurdodau lleol a phartneriaethau rhanbarthol ddefnyddio’r cyllid hwn i ategu buddsoddiadau eraill ry’n ni’n eu gwneud i wella ffyniant, fel y gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o’r Bargeinion Dinesig, buddsoddi yn y Metro, cynigion Tasglu’r Cymoedd, a’r paratoadau ar gyfer Wylfa Newydd.

“Dw i hefyd yn awyddus i’r buddsoddi cyfalaf hwn gefnogi’r rhaglenni eraill sydd ar waith i adeiladu cymunedau cryfach, gan gynnwys ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau.”

“Nifer cyfyngedig” o brosiectau fydd yn cael eu hariannu drwy’r rhaglen gwerth £100 miliwn, meddai Carl Sargeant, ac mae disgwyl i’r prosiect ddechrau o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Mae disgwyl i’r arian gael ei rannu drwy Banel Buddsoddi Cenedlaethol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y buddsoddiad yn “cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosib ledled Cymru”.