Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae Theresa May wedi gwneud apêl i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd (UE) i sicrhau cytundeb Brexit y gall hi ei amddiffyn i bleidleiswyr gwledydd Prydain.

Ar ôl dod o dan bwysau gan rai aelodau o’i phlaid i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth yr arweinwyr ym Mrwsel bod angen bwrw ymlaen gyda’r trafodaethau er mwyn sicrhau canlyniad sy’n dderbyniol i bobol gwledydd Prydain a phobol eu gwledydd eu hunain.

Fe fydd y 27 o wledydd sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn cyhoeddi heddiw nad oes digon o gynnydd wedi bod yn y broses i adael yr Undeb er mwyn i drafodaethau am gytundeb masnach gael eu cynnal.

Mae nifer o arweinwyr wedi dweud eu bod nhw eisiau rhagor o “eglurder” ynglŷn â faint mae’r Deyrnas Unedig yn fodlon talu er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.