David Davis
Mae Ysgrifennydd Brexit llywodraeth Prydain wedi cyfaddef fod peidio â dod i gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd wrth adael yn “bosibilrwydd pell”.

Mynnodd David Davis fod Brexit heb gytundeb yn annhebygol ar ôl i gefnogwyr y bleidlais Gadael arwyddo llythyr yn galw ar Theresa May i ddweud wrth Ewrop y bydd hi’n cerdded i ffwrdd os ydyn nhw’n parhau i wrthod trafod masnachu.

Mae’r cyn gweinidog cabinet, Owen Paterson, wedi dweud na ddylai’r Deyrnas Unedig ofni gadael heb fargen gan ddod dan dollau Sefydliad Masnach y Byd.

“Anhebygol ond yn bosibilrwydd”

Mae David Davis wedi pellhau ei hun o’r syniad ond fe ddywedodd fod y Llywodraeth yn paratoi ar gyfer sefyllfa heb gytundeb fel “yswiriant.”

“Y peth cyntaf i ddweud yw a) nid yw hynny’n fwriad gennym, b) dw i ddim yn meddwl ei fod yn debygol, dw i’n meddwl ei fod yn bosibilrwydd pell,” meddai mewn cyfweliad â phapurau newyddion Ewropeaidd.

“Ar ôl dweud hynny, mae’n rhaid i ni baratoi amdano. Mae llywodraeth gyfrifol yn paratoi at bob canlyniad ac rydyn ni’n gwneud hynny.”

Ond ychwanegodd nad yw paratoi am Brexit heb gytundeb yn rhan o’i “strategaeth negodi”.