Mae ffrae wedi’i chynnau yn y Cynulliad dros nifer y pwyllgorau y mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn cael eu cadeirio.
Ers etholiadau’r Cynulliad yn 2016, mae Plaid Cymru wedi colli dau aelod o’i grŵp ym Mae Caerdydd, ac o ganlyniad, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar i’r blaid golli un o’i rolau yn cadeirio pwyllgor.
Fel y blaid sydd â’r mwyaf o Aelodau Cynulliad, Llafur sy’n cael cadeirio’r nifer fwyaf o bwyllgorau [saith], mae Plaid Cymru yn cadeirio tri, y Ceidwadwyr ar ddau ac UKIP yn cadeirio un.
Ar ôl i Dafydd Elis-Thomas adael y blaid ym mis Hydref y llynedd a Neil McEvoy wedi’i wahardd o’r grŵp, deg aelod sydd yng ngrŵp y Blaid ar hyn o bryd.
Ac ar ôl i Mark Reckless adael UKIP i ail-ymuno â’r Ceidwadwyr, mae bellach 12 o Aelodau yn eistedd ar feinciau’r Torïaid yn y Senedd.
Ceidwadwyr yn protestio
Ddoe, bu ddadl danbaid yn y Senedd wrth i’r Llywydd, Elin Jones, gynnig ethol Aelodau i bwyllgorau, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw’r penderfyniad i beidio tynnu cadeiryddiaeth oddi ar Blaid Cymru yn “ddiwrnod trist i gyfansoddiad” Cymru.
Dywedodd Elin Jones nad yw balans cadeiryddion y pwyllgorau yn cyd-fynd gyda rheolau’r Cynulliad rhagor ond mae pwyllgor busnes y Cynulliad wedi dweud y dylai’r sefyllfa aros.
Yn ôl Leanne Wood, dylai nifer y cadeiryddion adlewyrchu pleidlais y bobol ac nid unrhyw newid ers hynny. Ond mae Paul Davies o’r Ceidwadwyr yn anghytuno.
“Mae balans gwleidyddol y Cynulliad wedi newid eto, gan atgyfnerthu safle’r Ceidwadwyr Cymreig fel yr wrthblaid fwyaf,” meddai Paul Davies.
“Yn anffodus, dyw’r balans o bŵer heb gael ei adlewyrchu wrth rannu cadeiryddion pwyllgorau, ac mae gwrthbleidiau wedi dod at ei gilydd i amddiffyn hunan-ddiddordeb ar draul democratiaeth.
“Mae’n ddiwrnod trist arall i’r Cynulliad Cenedlaethol a’i weithdrefnau – ac yn ddiwrnod trist i’n cyfansoddiad.”