Llun: PA
Mae Theresa May a llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker wedi cytuno i “gyflymu’r” broses Brexit ond mae’n ymddangos mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod i geisio dod i gytundeb.
Ar ôl cwrdd ym Mrwsel ddydd Llun, dywedodd Theresa May a Jean-Claude Juncker mewn datganiad ar y cyd bod eu cyfarfod wedi bod yn “adeiladol ac yn gyfeillgar.”
Ond nid oedd unrhyw awgrym bod llywydd y Comisiwn Ewropeaidd yn barod i adolygu ei safiad nad oedd digon o gynnydd wedi bod er mwyn symud ymlaen at ail ran y trafodaethau.
Daeth y cyfarfod ar ôl i brif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, rybuddio wythnos ddiwethaf nifer o feini tramgwydd yn parhau – gan gynnwys y swm bydd yn rhaid i Brydain dalu er mwyn gadael yr UE.