Mae yna gynlluniau i sefydlu plaid newydd o blaid annibyniaeth yng Nghymru, a honno i’r dde o’r canol gwleidyddol.

Mae’r blogiwr Jac o’ the North, neu Royston Jones, wedi trefnu cyfarfod yn Aberystwyth ddechrau Tachwedd gyda’r bwriad o fwrw’r cwch i’r dwr – ac mae’n gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb i ddod yno i fod yn rhan o’r fenter.

Yn ei flog yn cyhoeddi’r cyfarfod, dywed fod datganoli “heb wneud dim i wella bywydau pobol Cymru” ac y byddai’r blaid newydd yn “datgelu diffygion” pleidiau eraill yng Nghymru.

Mae am weld y blaid yn mynnu bod hanes a thraddodiadau Cymru yn cael eu haddysgu yn yr ysgolion; cefnogi’r sector busnes i weithio gyda sector cyhoeddus “effeithiol”; cefnogi’r iaith Gymraeg; a dod â diwedd i sefydliadau ‘Cymru a Lloegr’, gan greu cyrff sy’n unigryw i Gymru.

Dywed mai awgrymiadau yw’r rhain yn unig, gan nad yw eisiau cymryd rhan yn y blaid – “dim ond gwahodd pobol i ddod i gyfarfod ydw i”, meddai.

Mae’r cyfarfod wedi cael ei drefnu yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth ar Dachwedd 4.