Mae angen i gynghorau Cymru wella’r ffordd y maen nhw’n “monitro” effaith newidiadau i wasanaethau ar gymunedau lleol.  

Dyma un o’r safbwyntiau sydd yn cael ei amlinellu mewn adroddiad diweddar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Hugh Vaughan Thomas.

Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd canfyddiadau o 22 awdurdod lleol Cymru ac er nad yw’n gwneud argymhellion ffurfiol, mae’n nodi sawl maes lle mae angen rhagor o waith.

Un o’r meysydd yma yw ymgynghori, gyda’r adroddiad yn annog awdurdodau lleol i drafod ag ystod ehangach o bobol ynglŷn â’r rôl dylai’r cynghorau chwarae yn y gymuned.

Daw cyhoeddiad yr adroddiad (Hydref 11) wedi i Lywodraeth Cymru ddatgan ddydd Mawrth (Hydref 10), y bydd cynghorau yn derbyn toriad 0.5% yn eu cyllid dros y flwyddyn nesaf.

Penderfyniadau anodd 

“Yn gynyddol mae cynghorau’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd am newid y gwasanaethau maent yn eu darparu i’r cyhoedd ac mae hon yn aml yn broses gymhleth a dadleuol,” meddai Hugh Vaughan Thomas.

“Rydym wedi datgelu llawer o astudiaethau achos defnyddiol o ddulliau mae cynghorau’n eu cymryd ac rydym hefyd yn tynnu sylw at feysydd sydd angen eu gwella. Mae’n ddeunydd darllen hanfodol i gynghorau.”