Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r prynhawn yma faint o arian y bydd pob cyngor sir yng Nghymru yn ei dderbyn dros y flwyddyn nesaf.

Fe ddaw cyhoeddiad Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, yn sgil cyhoeddi’r gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf sy’n werth £15 biliwn.

Mae’r rhan fwyaf o gyllid y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn dod o grantiau gan Lywodraeth Cymru.

‘Pryder am ysgolion a gofal cymdeithasol’

Mae’r corff sy’n cynrychioli’r awdurdodau lleol, Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (CLLC)  eisoes wedi mynegi pryderon am ddyfodol ysgolion a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ond yn ôl llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr yng Nghymru, Janet Finch-Saunders, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru “gymryd cyfrifoldeb.”

Wrth ymateb i sylwadau CLLC, dywedodd: “Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu fframwaith sy’n sicrhau ariannu teg i Gymru.. mae’n golygu am bob £1 sy’n cael ei wario yn Lloegr, mae o leiaf £1.20 yn cael ei wario yng Nghymru.

“Y perygl mwyaf i ysgolion a gofal cymdeithasol yng Nghymru yw camreolaeth Llywodraeth Cymru o arian cyhoeddus.”

Ychwanegodd: “Mae ganddyn nhw’r adnoddau i wneud y gwaith ac mae’n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb.”

Y llynedd mi wnaeth Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (CLLC) alw am arian ychwanegol i gynghorau gwledig yn dilyn toriadau i’w cyllidebau.

Fe gafodd y fformiwla ei newid y llynedd i leddfu’r gwahaniaeth yn y toriadau rhwng cynghorau gwledig a chynghorau trefol Cymru.